Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | Local Government and Housing Committee
Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) | Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill
Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg | Evidence from: Welsh Language Commissioner
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Rydym yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn yng nghyd-destun un o uchelgeisiau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i warchod cynaliadwyedd cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol naturiol. Rhan bwysig o wneud hynny yw galluogi a hwyluso siaradwyr Cymraeg i barhau i fyw yn y cymunedau hyn.
Yn Adran 12 (2) y Bil, nodir bwriad i ddiwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 i roi pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu amgylchiadau “(e) sydd i’w trin fel amgylchiadau arbennig sy’n cysylltu person ag ardal, neu nad ydynt i’w trin felly.” Dylai’r Llywodraeth ddefnyddio’r pŵer hwnnw i bennu’r gallu i siarad Cymraeg ymhlith yr amgylchiadau hynny, yn achos ardaloedd neu gymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg.
Derbyniodd y Comisiynydd farn gyfreithiol sydd yn cadarnhau bod modd cynnwys sgiliau yn y Gymraeg fel un o’r ystyriaethau mewn polisïau gosod tai cymdeithasol, cyn belled â bod blaenoriaeth resymol yn cael ei rhoi i’r categorïau yn adran 167(2) o Ddeddf Tai 1996. Pan ddisodlir y Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd, dylai’r canllawiau newydd gydnabod arwyddocâd y gallu i siarad Cymraeg i gysylltiad unigolyn a’i ardal leol.
Yn ei adroddiad, Grymuso Cymunedau Cryfhau’r Gymraeg, argymhellodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg y dylai awdurdodau lleol ac awdurdodau cynllunio ystyried a ellir datblygu modelau, o ran gosod tai cymdeithasol, lle gallai’r Gymraeg fod yn un ystyriaeth gadarnhaol. Ymatebodd y Llywodraeth trwy ddweud bod rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru, wrth benderfynu ar eu cynlluniau penodol, roi sylw i’r Cod Canllawiau ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. Ymrwymodd y Llywodraeth i ddiwygio’r canllawiau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion Cymraeg 2050 (wrth gwrs, pan bydd y Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd yn cael ei ddisodli, bydd ymrwymiad y Llywodraeth yn berthnasol I'r rheoliadau newydd bydd yn cael eu llunio yn sgil y ddeddf hon). Dywedodd y Llywodraeth hefyd y byddai’n darparu canllawiau pellach i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar ystyried y Gymraeg wrth osod tai cymdeithasol. Rydym yn cefnogi’r ymrwymiad hwn ac yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys yn y Bil yr egwyddor fod y Gymraeg yn ystyriaeth gadarnhaol wrth ddyrannu tai cymdeithasol.
Mae un agwedd ar Adran 6 y Bil y dymunwn fwy o wybodaeth amdano, sef is-adrannau (8) a (9) sy’n ymwneud â charcharorion. Maent yn nodi dyletswydd i ddarparu llety pan gaiff carcharor ei ryddhau. Nid yw’n glir, fodd bynnag, a yw’r ddyletswydd yn berthnasol os nad oes gan yr unigolyn gysylltiad lleol â Chymru. Mae un agwedd ar Adran 6 y Bil yr hoffem gael rhagor o eglurhad yn ei chylch, sef is-adrannau (8) a (9) sy’n ymwneud â charcharorion. Mae’r darpariaethau hyn yn nodi dyletswydd i ddarparu llety pan gaiff carcharor ei ryddhau. Fodd bynnag, nid yw’n gwbl eglur ar hyn o bryd a yw’r ddyletswydd honno’n berthnasol hefyd mewn achosion lle nad oes gan yr unigolyn gysylltiad lleol â Chymru. Byddem yn ddiolchgar o gael eglurhad ar y mater hwn a pa un ai a ystyriwyd hyn yn yr Asesiad Effaith Integredig.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae’r Asesiad Effaith Integredig yn y Memorandwm Esboniadol yn cydnabod y gall digartrefedd gael effeithiau negyddol a thrawmatig ar unigolyn, gyda goblygiadau cymunedol, diwylliannol ac ieithyddol ehangach, yn enwedig i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Nodir y gall digartrefedd arwain at ddadleoli, a all darfu ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf.
Mae’r rhybudd hwn yn tanlinellu pwysigrwydd ein hargymhelliad uchod y dylai’r gallu i siarad Cymraeg gael ei gynnwys ymhlith yr ystyriaethau a gynhwysir yn y diffiniad o’r cysylltiad lleol. Trwy roi cyfle i siaradwyr Cymraeg aros yn eu hardal leol, mae’n fwy tebygol y byddant yn gallu parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd ac y bydd hyn yn cyfrannu at hyfywedd y Gymraeg yn yr ardal.